logo
  
 
Cyfarwyddyd Newydd oddi wrth yr Awdurdod Gweithredol ar Iechyd a Diogelwch (HSE)

helmetTCyhoeddodd yr Awdurdod Gweithredol ar Iechyd a Diogelwch (HSE) gyfarwyddyd newydd ar reoli risg yn ystod yr haf yn 2006.  Roedd y cyfarwyddyd yn cynnwys y cyngor canlynol ynghylch ‘rheoli risgiau yn synhwyrol’ a chyngor hefyd ar sut i gynnal asesiad risg a llunio mesurau rheoli.

Mae Rheoli risg yn synhwyrol YN ymwneud â:

  • sicrhau bod gweithwyr ac aelodau’r cyhoedd yn cael eu diogelu’n briodol;
  • darparu budd cyffredinol i gymdeithas trwy gydbwyso buddiannau a risgiau, gan ganolbwyntio ar leihau’r gwir risgiau – y rhai hynny sy’n amlygu eu hunain yn aml a’r rhai sydd â chanlyniadau difrifol;
  • hwyluso arloesi a dysgu, nid rhwystro hynny;
  • sicrhau bod y rhai sy’n creu’r risgiau yn eu rheoli;
  • hwyluso unigolion i ddeall bod ganddyn nhw hawl i ymarfer cyfrifoldeb yn ogystal â bod â hawl i gael eu diogelu.

NID YW Rheoli risg yn synhwyrol yn ymwneud â:

  • chreu cymdeithas sy’n gyfan gwbl rydd o risgiau;
  • cynhyrchu mynyddoedd o waith papur diwerth;
  • dychryn pobl trwy orliwio risgiau bychan neu roi cyhoeddusrwydd iddyn nhw;
  • rhwystro gweithgareddau addysgol a gweithgareddau hamdden pwysig i unigolion lle mae’r risgiau’n cael eu rheoli;
  • lleihau diogelu pobl rhag risgiau sy’n achosi gwir niwed a dioddef.

Gwelwch Gronfa ddata ar Asesu Risg ar gyfer gweithgareddau mewn ysgolion  yn RAS3A a Chronfa ddata ar gyfer Gweithgareddau oddi ar safle yn RAS3. Mae cyfarwyddyd ar asesu risgiau wedi’i gynnwys yn RAS1 ac mae 'sut i wneud hynny' yn RAS2A.

Er mwyn gweld cyfarwyddyd yr Awdurdod Gweithredol ar Iechyd a Diogelwch yn llawn ewch i wefan HSE ar www.hse.gov/pubns

Ionawr 2007

 

 

 
 
Top