logo
  
 
Pandemig Ffliw Dynol

stethoscopeMae’r llywodraeth yn argyhoeddedig y bydd pandemig ffliw dynol - er nad yw’n gwybod pa bryd. Mae’n amcangyfrif y bydd yn effeithio ar rhwng 25% a 50% o boblogaeth y D.U. Fe allai rhwng 50,000 a 750,000 o bobl farw yn ystod y cyfnod disgwyliedig o dri neu bedwar mis, gyda phob ton o’r ffliw.

Bydd ysgolion yn cael eu heffeithio’n ddrwg, ac mae angen sefydlu cynlluniau brys yn awr. Mae’r Adran Addysg a Sgiliau (DfES) wedi cyhoeddi cyngor manwl ar Teachernet ar: www.teachernet.gov.uk/humanflupandemic

Gwelwch hefyd wybodaeth bellach wedi’i darparu gan QGP yn y ddogfen GM10 Human Flu Pandemic.

 
 
Top