logo
  
 
Cyfarwyddyd Newydd HSE ar Asesu Risg

helmetYm mis Gorffennaf 2006 cyhoeddodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) fersiwn diwygiedig o’r cyfarwyddyd ‘Pum Cam i Asesu Risgiau’ (Five Steps to Risk Assessment) a gyhoeddwyd gyntaf yn 1993. Rhan yw hon o fenter asesu risg synhwyrol yr HSE. Mae’r fersiwn diwygiedig wedi ei ysgrifennu mewn iaith gliriach ac mae’n rhoi mwy o bwyslais ar ofalu bod penderfyniadau yn cael eu gweithredu. Mae’r cyfarwyddyd ar wefan yr HSE ar www.hse.gov.uk/risk ac mae copïau caled i’w cael o HSE Books (01787 881165 Ref INDG163 (Rev 2).

Mae’r HSE hefyd wedi cyhoeddi rhestr o egwyddorion rheolaeth risg synhwyrol. Mae hon yn cynnwys datganiad sy’n nodi bod rheoli risg yn ymwneud â chadw cydbwysedd rhwng manteision a risgiau, ac yn galluogi mentrau a dysgu, nid eu mygu. Nid ymwneud â chreu cymdeithas sy’n gyfan gwbl rydd o risg yw rheoli risg synhwyrol, gan gynhyrchu mynyddoedd o waith papur diwerth, na dychryn pobl trwy  orliwio neu roi cyhoeddusrwydd i risgiau pitw.

 

 

 
 
Top