Mae’r hawl i wneud cais am drefniadau gweithio hyblyg er mwyn gallu gofalu am blant yn un o nifer o hawliau ystyriol o deuluoedd sydd wedi’u cyflwyno dan ddeddfwriaeth ddiweddar fel rhan o ymgyrch y llywodraeth ynghylch cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Hawl i wneud cais yw hwn, nid hawl i weithio’n hyblyg. Mae’r ddeddfwriaeth yn gosod dull gweithredu i’r cyflogwr ei ddilyn, os oes cais yn cael ei wneud. Mae hyn yn cynnwys cyfarfod i drafod y cais a’r hawl i apelio. Mae gofyn i’r cyflogwr roi rheswm dros wrthod cais am weithio’n hyblyg, ac mae’r ddeddfwriaeth yn rhoi rhestr o resymau derbyniol. Y rhesymau hyn fyddai, baich y costau ychwanegol, effaith niweidiol ar allu’r cyflogwr i gwrdd â galw’r cwsmer, anallu i aildrefnu’r gwaith rhwng y staff sydd yno eisoes, anallu i recriwtio staff ychwanegol, effaith niweidiol ar ansawdd neu berfformiad, dim digon o waith yn ystod y cyfnodau y mae’r gweithiwr yn bwriadu gweithio, a newidiadau strwythurol wedi’u cynllunio.
Os yw cais yn cael ei wrthod a’r gweithiwr yn cyflwyno cwyn i dribiwnlys cyflogaeth, ni all y tribiwnlys gwestiynu rhesymolrwydd penderfyniad y cyflogwr. Mae’n bosib gofyn iddo ystyried a oedd y cyflogwr wedi dilyn y dull gweithredu statudol yn gywir, a oedd rheswm derbyniol wedi’i roi dros wrthod y cais, neu a oedd y ffeithiau yr oedd y cyflogwr yn dibynnu arnyn nhw wrth ddod i’r penderfyniad yn gywir.
Mae achos Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth, Commotion Ltd v Rutty 2006 yn cadarnhau y gall tribiwnlys edrych yn fanwl ar sail ffeithiol y cyflogwr dros wrthod.
Roedd yr hawliwr, a oedd yn gweithio’n llawn amser, wedi gofyn am weithio llai o oriau, a gweithio am 3 diwrnod yr wythnos. Gwrthodwyd ei chais a bu ei hapêl i Dribiwnlys Cyflogaeth yn aflwyddiannus.
Rheswm y cyflogwr dros wrthod y cais oedd am ei fod eisiau meithrin ysbryd cyd-dynnu ymhlith y staff, ac roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i bob un weithio’r un oriau mewn diwrnod gwaith unffurf. Nodwyd hefyd y byddai cwtogi ei horiau gwaith yn cael effaith negyddol ar berfformiad ac yn rhoi straen ar adnoddau.
Er hynny, dyfarnu o blaid yr hawliwr a wnaeth y Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth. Nid oedd y cyflogwr wedi gwneud unrhyw ymdrech i wirio bod y ffeithiau roedden nhw’n gweithio arnyn nhw yn gywir. Er nad yw tribiwnlys yn gallu edrych ar y cwestiwn a oedd penderfyniad y cyflogwr yn deg ai peidio, mae’n gallu edrych ar y sail dros wrthod y cais i weld a yw’n ffeithiol gywir. Mae’r penderfyniad yma’n atgoffa cyflogwyr y dylen nhw gael sail ffeithiol dros eu penderfyniad nid rhagdybiaethau, a’i bod hi’n bosib iddyn nhw gael eu galw i ddarparu tystiolaeth am eu hymresymiad.
Gwelwch ddogfen QGP, ST4 Family Friendly Rights (Amended August 2006) sydd nawr ar gael ar wefan QGP. |