Roedd 10 Gorffennaf 2006 yn bedwerydd pen-blwydd y Rheoliadau Gweithwyr Tymor Penodol (Atal Triniaeth Lai Ffafriol) 2002. Cyflwynwyd y rheoliadau yma i atal gwahaniaethu yn erbyn staff tymor penodol. Mae ganddyn nhw’r un hawl i gael yr un hawliau a’r un driniaeth gyfartal â staff llawn amser oni bydd y cyflogwr yn gallu cyfiawnhau yn wrthrychol driniaeth wahanol.
Mae rhai cyflogwyr yn cyflogi staff ar ddilyniant o gontractau tymor penodol yn hytrach na rhoi statws parhaol iddyn nhw. Mae Rheoliad 8 yn ymdrin â hyn. Mae gweithiwr sydd wedi’i gyflogi’n trwy'r amser dan gontract tymor penodol, neu ar gyfres o gontractau tymor penodol, â’r hawl i gael statws parhaol oni bydd y cyflogwr yn gallu cyfiawnhau’n wrthrychol i barhau â’r contract tymor penodol. Gwasanaeth ar ôl 10 Gorffennaf 2002 yn unig sy’n cyfrif tuag at y pedair blynedd.
Gall gweithwyr cyflogedig ysgrifennu at y cyflogwr i gadarnhau statws parhaol dan y ddarpariaeth yma, a rhaid i’r cyflogwr roi ateb ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod, naill ai i gadarnhau’r statws parhaol neu i roi rheswm dros barhau â’r contract tymor penodol.
Mewn unrhyw achos, os nad yw contract tymor penodol yn cael ei adnewyddu mae hynny, yn gyfreithiol, yn ddiswyddiad. Fel gydag unrhyw ddiswyddiad arall, rhaid bod rheswm teg, a hwnnw’n cael ei weithredu mewn modd rhesymol gan ddefnyddio dull gweithredu ffurfiol.
Gwelwch ddogfen QGP, ST10A Part-time and Fixed-term Staff (Amended August 2006) sydd nawr ar y wefan.
|