Prif bwrpas y Mesur Addysg ac Arolygiadau 2006, sydd wedi mynd trwy’r Senedd, oedd ymestyn polisi’r llywodraeth ar gyfer ysgolion yn Lloegr i arbenigo, a thrwy wneud hynny greu amrywiaeth ehangach mewn trefniadaeth ysgolion. Y pwyslais yw creu ‘Ysgolion Ymddiriedolaethol’. Ni enillodd y polisi hwn ei blwyf gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae trefniadaeth ysgolion yng Nghymru wedi’i sylfaenu’n bennaf ar yr ysgol uwchradd yn y gymuned ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, o dderbyn y patrwm o ddarpariaeth ysgol yng Nghymru, wedi ymrwymo’i hun i godi safonau trwy wella canlyniadau ar gyfer disgyblion ym mhob ysgol.
Mae’r penderfyniadau sy’n deillio o’r Mesur ac sy’n ymwneud â Chymru wedi cynnwys fframwaith ddeddfu sy’n rhan o ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Mae Cymal 154 y Mesur yn gwneud darpariaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru i lunio ystod o bolisïau. Mae'r rhain yn cyfeirio at drefniadaeth a dosbarthiad ysgolion, mynediad, darpariaeth gwricwlaidd 14 -19, presenoldeb disgyblion, disgyblaeth a gwaharddiad, polisi trafnidiaeth ysgol a rheoliadau ynglŷn â bwyd a diod sy’n cael eu darparu mewn ysgolion.
Y prif bwyntiau yn y mesur y dylid bod yn ymwybodol ohonyn nhw yw:
Rhan 1
Swyddogaethau Addysg Awdurdodau Lleol
Mae cymalau 1 & 4 yn gymwys yng Nghymru a Lloegr. Maen nhw’n ailddeddfu’r ddyletswydd i hybu safonau uchel ac i sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd ei botensial addysgol. Rhoddir dyletswydd hefyd ar Awdurdodau Lleol i glustnodi plant sydd heb eu cofrestru mewn ysgol, ac sydd heb fod yn derbyn addysg addas mewn unrhyw le arall. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dechrau mynd i’r afael â hyn gyda’r Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2006 y disgwylir iddyn nhw fod mewn grym erbyn mis Mawrth 2007.
Rhan 3
Darpariaeth Bellach am Ysgolion a gynhelir
Mae Cymal 35 yn gosod y cyfrifoldeb ar gyrff llywodraethol ysgolion i fod yn ymwybodol o Gynlluniau Plant a Phobl Ifanc neu gynlluniau eraill sy’n ymwneud â phlant a gyhoeddir gan Awdurdodau Lleol. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cynhyrchu Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2006 sydd wedi eu targedu i ddod i rym ar 1 Ionawr 2007. Mae’r rheoliadau yma’n rhoi’r hawl i’r Cynulliad ofyn i Awdurdodau Lleol neu Awdurdod Gwasanaethau Plant yng Nghymru i baratoi a chyhoeddi cynllun sy’n gosod gerbron ei strategaeth ar y modd y mae’n mynd ati i weithredu mewn perthynas â phlant a phobl ifanc perthnasol. Yng Nghymru, mae gan rieni gyfle i leisio barn trwy Adroddiad y Llywodraethwyr at Rieni, tra yn Lloegr nid oes raid mwyach cael y cyfarfod hwn, ac mae’r cymal sy’n dweud bod Awdurdodau Lleol yn gorfod ystyried safbwyntiau rhieni yn berthnasol i Loegr yn unig.
Mae Cymalau 36, 37, 40 a 42 yn ymwneud â derbyniadau i ysgolion ac yn berthnasol i Gymru a Lloegr, ond cafodd y rhan fwyaf o’r rhain eu drafftio ar gyfer Cymru a Lloegr, yn bennaf er mwyn osgoi'r blerwch deddfwriaethol o gael y darpariaethau mewn un statud ac un arall ar gyfer Cymru. Ymhlyg yn y fframwaith mae grym yng Nghymal 154 y Mesur i Lywodraeth Cynulliad Cymru allu adolygu’r ddarpariaeth ar gyfer mynediadau. Eisoes, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi pasio:
- Rheoliadau Addysg (Penderfynu ar Drefniadau Derbyn) (Cymru) 2006.
- Rheoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) (Cymru) 2006.
- Rheoliadau Addysg (Amrywio Trefniadau Derbyn) (Cymru) 2006.
- Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 2006.
Daw'r rhain i gyd i rym ar 1 Chwefror 2006.
Dyma reoliadau sy’n darparu ar gyfer mynediadau i ysgolion ac sy’n gweddu i anghenion Cymru. Mae Cymal 7 y Mesur yn gofyn i awdurdodau mynediad “weithredu’n unol â”, yn hytrach na “bod yn ymwybodol” o’r Codau Ymarfer.
Disgwylir i’r Codau ar gyfer Cymru gael eu hadolygu, ac o bosib bydd y newid statws wedi’i ymgorffori ynddyn nhw pan fyddan nhw wedi’u cyhoeddi.
Rhan 6
Teithio i’r Ysgol a Bwyd Ysgol.
- Perthnasol i Loegr yn unig yw’r rhan am deithio i’r ysgol. Gall Llywodraeth Cynulliad Cymru, trwy’r fframwaith ddeddfu yng Nghymal 154, ddymuno datblygu ei threfniadau ei hun yn y dyfodol.
Mae Cymal 73 yn galluogi’r Cynulliad i roi mewn grym safonau ar gyfer pob bwyd a diod sy’n cael ei weini mewn ysgol, tra bo’r ddeddfwriaeth bresennol yn ymwneud yn unig â phrydau canol dydd. Bydd deddfwriaeth y fframwaith yng Nghymal 154 yn caniatáu i Lywodraeth Cynulliad Cymru ddatblygu polisi yn y maes yma. Mae hyn eisoes wedi cychwyn gyda’r ddogfen ymgynghorol Blas am Oes (Appetite for Life) sy’n ceisio barn ar ba mor bell y dylid cyflwyno rhagor o safonau ar faeth.
Rhan 7
Disgyblaeth, Ymddygiad a Gwaharddiad
Mae Cymalau 75-83 yn berthnasol i Gymru a Lloegr, ac maen nhw’n gymorth i sicrhau safonau uchel o ymddygiad a disgyblaeth, ac i ddarparu rhwyd ddeddfwriaethol ar gyfrer athrawon ac aelodau eraill o’r staff allai orfod defnyddio grym atal a gwella’r ddarpariaeth addysgol ar gyfer y disgyblion hynny sydd wedi eu gwahardd. Mae Cymalau 84-86 yn ymwneud â chontractau a gorchmynion rhianta ac a fydd o gymorth i sicrhau bod rhieni yn cymryd y cyfrifoldeb priodol am ymddygiad eu plant.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru eisoes er mis Mai wedi pasio'r Rheoliadau Addysg (Gorchmynion Rhianta) (Cymru) 2006, sy’n gosod yr amodau i’w cwrdd cyn y gall Awdurdod Lleol wneud cais i Lys Ynadon am orchymyn rhianta dan Adran 20 o’r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003.
Rhan 9
Amrywiol
Mae Cymalau 146 a 149 yn weithredol ar gyfer Cymru a Lloegr ac yn rhoi’r gallu i ysgolion a gynhelir i arloesi a chydweithio’n ffurfiol â cholegau Addysg Bellach, a fydd mor angenrheidiol wrth iddyn nhw gyflwyno’r cwricwlwm 14 -19.
Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru bolisi strategaeth clir yn y maes hwn sydd wedi ei gyhoeddi yn Llwybrau Dysgu 14-19:Canllawiau (Learning Pathways Guidance 14-19) ym mis Mai 2006.
Mae’r Cymal Cyffredinol 154, (sydd â chyfeiriad wedi’i wneud ato eisoes yn y nodiadau yma) yn gosod y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru ar amrediad o feysydd polisi, fydd yn digwydd yn unig ar ôl ymgynghori â’r budd-ddeiliaid.
|