Mae llawer o ddisgrifiadau swydd yn cynnwys cyfeiriad at ‘unrhyw ddyletswyddau eraill y byddai’n rhesymol gofyn i chi eu gwneud’ a phethau felly. Byddai aelodau’n annoeth i ddibynnu’n hollol ar hyn, nac yn wir i ddibynnu o gwbl ar Ddisgrifiad Swydd ar bapur.
Mae’r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth wedi nodi bod cymalau o’r math yma yn gosod gofyniad o resymoldeb ar gais y cyflogwr, a bod y prawf hwnnw’n ymwneud â’r cwestiwn a yw’r gweithiwr cyflogedig yn meddwl ei fod yn rhesymol, nid a yw’r cyflogwr yn meddwl hynny.
Pwysleisiodd y Tribiwnlys hefyd mai oherwydd nad yw Disgrifiadau Swyddi yn aml yn cynrychioli’r ‘gwir ddyletswyddau sy’n cael eu gwneud gan y gweithiwr cyflogedig mewn gwirionedd’ mae’r tribiwnlys â’r hawl i ystyried dyletswyddau ymgeisydd trwy gyfeirio at beth mae’r ymgeisydd wedi bod yn ei wneud, mewn gwirionedd. Wrth gwrs, yn ddelfrydol, fe fyddai’r ddau beth yn yr un fath, ac mae hyn yn ein hatgoffa i fod yn wyliadwrus o ‘ymgripiad cenhadaeth’ mewn perthynas â Disgrifiadau Swyddi.
|