Eisoes mae canlyniad achos Majrowski wedi prysuro achosion eraill yn erbyn cyflogwyr am fwlio yn y man gwaith dan y Ddeddf Gwarchod rhag Aflonyddu.
Yn achos Green v DB Group, sydd wedi cael cryn gyhoeddusrwydd yn y papurau, fe siwiodd swyddog gweithredol ei chyflogwyr am niwed seiciatrig a achoswyd gan fwlio ac aflonyddu. Enillodd ei hachos er gwaetha’r ffaith eu bod wedi canfod ei bod hi’n anarferol o agored i niwed gyda bwlio o’r fath. Roedd y dyfarndal yn ymwneud ag enillion arfaethedig yn ogystal â’r gwir enillion, a bydd yn costio’n ddrud iawn i’w chyflogwyr.
Roedd y bwlio’n cynnwys dwy elfen: triniaeth anghyffredin o blentynnaidd a maleisus gan aelodau o ysgrifenyddiaeth y cwmni, yn cynnwys sylwadau personol a ‘blancio’, ynghyd â gweithredoedd cyd reolwr a ddisgrifiwyd gan y barnwr fel: rhai ‘gormesol, amharchus, oedd yn ei gwrthod, yn gwrthdaro â hi, ac wedi’u llunio i’w thanseilio a’i bychanu o flaen pobl eraill.’
Un o’r prif ffactorau cyfrannol oedd rheolaeth wan, fu’n gyfrifol am adael i hyn ddigwydd.
Y wers yw nad yw’n ddigon cael polisïau, neu obeithio y bydd pobl yn datrys problemau ymysg ei gilydd. Rhaid i’r uwch reolwyr wybod beth sy’n digwydd, a gwneud rhywbeth effeithlon ynglŷn â hynny. |