logo
  
 
Gwybodaeth Ychwanegol i’w darparu am Ddisgyblion Unigol

job descriptionMae’r Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Diwygiedig) 2006 (a ddaeth i rym ym mis Gorffennaf 2006) yn helaethu’r cwmpas o wybodaeth am ddisgyblion sy’n bosib ei ddarparu gan y rhai sy’n cael eu galw’n ‘goladwr gwybodaeth' ar gyfer 'personau rhagnodedig’ a 'phersonau sy’n dod o fewn categori rhagnodedig'. Mae hyn yn cynnwys:

  1. gwybodaeth sy’n berthynol i ddisgyblion unigol a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Lloegr) 2001;
  2. cyflawniadau addysgol disgyblion mewn unrhyw asesiadau Cwricwlwm Cenedlaethol ar ddiwedd, neu tua diwedd blwyddyn olaf CA1,CA2 neu CA3; a
  3. chyflawniadau addysgol disgyblion mewn unrhyw gymwysterau allanol.

Mae’r personau, a’r categorïau o bersonau sydd â’r hawl i dderbyn gwybodaeth am ddisgyblion yn cynnwys:

  1. Sefydliadau Addysg Bellach; a
  2. Phersonau sy’n darparu gwasanaethau i bobl ifanc fel rhan o’r Gwasanaeth Connexions, Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, a phersonau yn ymchwilio i gyflawniadau addysgol disgyblion ac sydd angen gwybodaeth am ddisgyblion unigol at y pwrpas hwnnw.

Mae’r manylion yma wedi’u cynnwys yn y ddogfen P1 Pupil Information in the Management of Pupils division.

 

 

 

 
 
Top