logo
  
 

Newidiadau 14-19

foldersMae'r addysgu cyntaf ar gyfer y Lefel A ddiwygiedig yn dechrau ym mis Medi 2008. Lluniwyd y cyrsiau diwygiedig hyn er mwyn lleihau'r baich asesu ar athrawon a dysgwyr. Er mwyn cyflawni hyn, fe fydd y rhan fwyaf o gymwysterau Lefel A yn cael eu cwtogi o chwe uned i bedair, gyda rhai eithriadau yn y pynciau Gwyddonol, Cerdd, Ieithoedd Modern a Mathemateg. Fel rhan o'r ailddatblygu cyflwynir hefyd yr 'ymestyn a herio' er mwyn caniatáu i'r dysgwyr mwyaf galluog arddangos eu llawn botensial. Mae manylebau drafft a manylebau trosolwg ar gael yn awr ar:
www.ocr.org.uk/14-19alevels

Cyflwynodd y Papur Gwyn Addysg a Sgiliau 14-19 (2005) Sgiliau Gweithredol mewn Saesneg, Mathemateg a TGCh er mwyn mynd i'r afael â phryderon cyflogwyr ynghylch y ffaith nad yw pobl ac oedolion yn ennill sylfaen gadarn yn y pethau 'sylfaenol'.

Nododd y Papur Gwyn hefyd na fyddai cyflawniad ymgeiswyr mewn Saesneg, Mathemateg a TGCh (TGAU) ar radd C neu uwch, yn bosib heb gyflawni'r Sgiliau Gweithredol ar lefel 2 yn y pynciau hyn. Fe fyddai'n ofynnol cyflawni'r Sgiliau Gweithredol ar gyfer y Diplomau Arbenigol (mewn gwirionedd fe fydd Saesneg a mathemateg gweithredol yn gydrannau gorfodol o ddysgu cyffredinol y Diploma Arbenigol. Bydd y Sgiliau Gweithredol ar gael fel cymwysterau ar eu pen eu hunain sy'n debygol o gymryd lle'r cymwysterau sgiliau sylfaenol a sgiliau allweddol ymhen amser.

Rhoddodd yr awdurdod Qualifications and Curriculum Authority (QCA) yn Lloegr gontract yn ddiweddar i amryw o gyrff dyfarnu i brofi'r safonau a'r dulliau asesu posib ar gyfer Sgiliau Gweithredol mewn amrywiaeth o gyd-destunau dysgu.

Ym myd Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs), fe fydd nifer o ddatblygiadau newydd yn cael eu cyflwyno dros y misoedd nesaf o ganlyniad i Adroddiad Foster (2005). Nodwyd yn yr adroddiad y fiwrocratiaeth ddianghenraid oedd yn dod i ran y canolfannau a oedd yn gorfod delio â gwahanol systemau nifer o wahanol gyrff dyfarnu.

Yn ddiweddar cyhoeddodd QCA God Ymarfer NVQ diwygiedig. Does dim newidiadau sylfaenol i'r Cod, ond mae'r diwygiadau wedi eu llunio er mwyn gwella ansawdd y ddogfen. O hyn allan, ni fydd Canolfannau'n cael eu graddio yn dilyn ymweliad Gwiriwr Allanol. Yn lle hynny, bydd perfformiad Canolfan yn cael ei fonitro trwy gymhwyso'r 'tariff gorchymyn". Bydd system archwilio arunig yn peidio â bod, ac yn fuan fe fydd ffurflen adrodd Gwiriwr Allanol unigol.

Mae gwefan QCA yn ogystal â gwefannau cyrff arholi yn rhoi rhagor o wybodaeth ar yr holl ddatblygiadau a'r holl newidiadau 14-19.

 
 
Top